Sicrhau cynhwysiant digidol: Fframwaith strategol i Gymru

3 Awst 2010

Drwy’r Fframwaith hwn, mae Llywodraeth y Cynulliad yn datgan yn glir ei bod yn bwriadu rhoi arweiniad strategol pendant, ond mae hefyd yn cydnabod bod rhaid sicrhau cyfranogiad y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus ar y cyd i wneud y cynnydd sydd ei angen, ac na all Llywodraeth y Cynulliad gyflawni’r nod ar ben ei hunan. Pwysleisir yr angen i ennyn cefnogaeth amrywiaeth eang o randdeiliaid i’r weledigaeth o gynhwysiant digidol.

Mae’r Fframwaith yn esbonio’r manteision sylweddol, i unigolion a grwpiau, o fynd ar-lein. Mae hefyd yn nodi’r grwpiau allweddol o bobl sydd wedi’u hallgau, y rhwystrau a wynebant, a’r camau y gellir eu cymryd i ddechrau mynd i’r afael â’r problemau.

Bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau yr hoffech i WCVA eu cynnwys yn ei ymateb, a fyddech cystal â’u hanfon dros e-bost at: jmcquade@wcva.org.uk