Cyflwyniad i hwyluso

25 Chwef 2011

Mae yna lefydd cyfyngedig ar ôl ar y cwrs yma, peidiwch â cholli allan!

6 Ebrill 2011
WCVA, Caerdydd

Nod dysgu:

I alluogi cyfranogwyr i ddeall rôl hwylusydd ac ymarfer amrywiaeth o sgiliau hwyluso a thechnegau.

Amcanion dysgu:

  • Cyflwyno egwyddorion cyfranogi a hwyluso effeithiol
  • Archwilio pryd a ble y mae dulliau hwyluso yn fwyaf priodol
  • Nodi’r sgiliau a’r gwerthoedd allweddol a ddefnyddir wrth hwyluso
  • Dechrau datblygu pecyn o dechnegau hwyluso
  • Darparu cyfle i gyfranogwyr i ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylchedd cefnogol
  • Rhannu profiadau gyda chyfranogwyr eraill

Canlyniadau dysgu:

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn gallu:

  • Disgrifio egwyddorion cyfranogi, hwyluso a meithrin consensws effeithiol
  • Gwerthuso’r sgiliau a’r gwerthoedd allweddol a ddefnyddir wrth hwyluso
  • Cymhwyso gwahanol dechnegau hwyluso i wahanol sefyllfaoedd
  • Defnyddio ‘pecyn hwyluso’ hanfodol o dechnegau a phrosesau
  • Gwybod ble i gyrchu at adnoddau ychwanegol

Y dyddiad cau ar gyfer archebu lle yw 16 Mawrth.

Cynulleidfa darged:

Y rheini sydd eisiau datblygu’u sgiliau hwyluso i’w galluogi i hwyluso cyfarfodydd a digwyddiadau gyda dinasyddion, cymunedau, cydweithwyr a mudiadau partner.

Bydd y cwrs hwn yn darparu cyflwyniad i hwyluso, gan alluogi’r cyfranogwyr i ddeall rôl hwyluswyr ac i ymarfer amrywiol sgiliau a thechnegau hwyluso. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu sut i gynllunio a rhedeg digwyddiadau wedi’u hwyluso yn effeithiol, meithrin sgiliau holi ac archwilio technegau ar gyfer delio â materion ac ymddygiad heriol.

Bydd yn gwrs cyfranogol lle caiff y cyfranogwyr gyfle i archwilio ac ymarfer hwyluso mewn amgylchedd dysgu diogel.

Prisiau

Aelod WCVA £125 Mudiadau Gwirfoddol £155 Eraill £185 (nid yw prisiau yn cynnwys TAW)