Y Gweithlu Datblygu Cymunedol: Troi Gwerthoedd yn Weithredu
20 Ebr 201230 Ebrill, 10:00am ‐ 4:00pm, Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd
Mae Datblygu Cymunedol Cymru yn cynnal y digwyddiad yma er mwyn dwyn ynghyd ystod eang o ymarferwyr Datblygu Cymunedol i ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu syniadau a phrofiadau, cyfnewid gwybodaeth, a chymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol ynglŷn â’u gwaith cyfredol.
Mae’r gynhadledd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn Datblygu Cymunedol, neu’n gweithio neu’n ymwneud â’r maes, a hynny mewn amrywiol leoliadau yn cynnwys iechyd, yr amgylchedd, adfywio, darparwyr addysg a hyfforddiant a chyrff cymeradwyo, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill, sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, gweithredwyr cymunedol, staff Cymunedau yn Gyntaf, gweithwyr prosiect, rheolwyr a chyllidwyr.
Ceir hefyd wasanaeth cynghori ‘Galw Heibio’ gan Gymunedau yn Gyntaf a bydd Russell Todd, Cydlynydd Cyngor Cymunedau yn Gyntaf, WCVA, ar gael drwy’r dydd, gyda gwybodaeth a chefnogaeth.
Ar gyfer gwybodaeth bellach gwelwch y taflen isod os gwelwch yn dda neu cysylltwch â Datblygu Cymunedol Cymru ar Ffôn: 01686 627377 neu E‐bost: emma@cdcymru.org.