Beth fydd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu newydd yn ei olygu i chi?

25 Medi 2012

27 Medi, Canolfan Christchurch, BT Compound, Casnewydd

Fel rhan o Brosiect Cymunedau Diogelach i’r Dyfodol, mae WCVA am drefnu pedwar digwyddiad am ddim yn yr wythnosau nesaf. Bydd y digwyddiadau hyn yn darparu gwybodaeth ar gyfer pedair ardal Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru – y Gogledd, y De, Gwent a Dyfed Powys – gan gynnwys:

  • Rôl a phwerau’r Comisiynwyr Heddlu, ym mha ffordd y byddant yn effeithio ar bartneriaethau diogelwch cymunedol a beth yw’r goblygiadau i’r sector
  • Ym mha ffordd y gall Prosiect Cymunedau Diogelach i’r Dyfodol eich helpu i baratoi at ddyfodiad y Comisiynwyr Heddlu
  • Beth yw’r rhwydweithiau rhanbarthol, ac ym mha ffordd ac ym mha le y byddant yn gweithio yn y trefniant hwn

Cynhelir yr etholiadau i ddewis y Comisiynwyr Heddlu ym mis Tachwedd.

Gallwch gadw’ch lle yn y digwyddiad yng Nghasnewydd yma. Bydd manylion am y tri digwyddiad arall yn cael eu dosbarthu yn y dyfodol agos.